CLA362 - Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2014
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Ffioedd) (Cymru) 2004 (Rheoliadau 2004) o ganlyniad i gyflwyno credyd cynhwysol gan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2012. Caiff rheoliad 8 ei ddiwygio er mwyn caniatáu ystyried y ffaith bod credyd cynhwysol yn cael ei dderbyn wrth benderfynu a ganiateir hepgor ffi tribiwnlys. Caiff rhai mân ddiwygiadau eu gwneud hefyd i destun Cymraeg y Rheoliadau er mwy alinio’r testunau Cymraeg a Saesneg.
Gweithdrefn: Negyddol
Materion technegol: craffu
Ni nodwyd pwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Nodwyd y pwyntiau canlynol i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Mae’r Rheoliadau yn gwneud newid ychwanegol i destun Cymraeg Rheoliadau 2004, gan i ddiwygiad gael ei wneud i’r testun Saesneg yn unig gan yr Ysgrifennydd Gwladol fel rhan o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (Darpariaethau Canlyniadol) (Rhif 3) 2008. Ymddengys nad oedd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ymwybodol o’r angen i ddiwygio deddfwriaeth Gymreig yn y ddwy iaith.
[Rheol Sefydlog 21.3 (ii) - ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad;]
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Chwefror 2014